Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 24 Chwefror
2016
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3540
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 12 cwestiwn. Atebwyd cwestiwn 10 gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
Dechreuodd yr eitem am 14.15
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y newyddion cyffrous ynghylch sicrhau ffatri Aston Martin i Gymru? EAQ(4)0682(EST)
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
Dechreuodd yr eitem am 14.22
NDM5974 Ann Jones (Dyffryn Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2015.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23 (iii), ni ddetholwyd y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 14.58
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NNDM925 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor y Rhanbarthau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Ionawr 2016.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai Cymru a'r DU barhau i fod yn aelodau o'r UE ac yn penderfynu meithrin deialog gadarnach gyda sefydliadau Ewropeaidd fel Pwyllgor y Rhanbarthau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
1 |
4 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NNDM925 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad Pwyllgor y Rhanbarthau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Ionawr 2016.
2. Yn credu y dylai Cymru a'r DU barhau i fod yn aelodau o'r UE ac yn penderfynu meithrin deialog gadarnach gyda sefydliadau Ewropeaidd fel Pwyllgor y Rhanbarthau.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
1 |
4 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 15.36
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5976 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd rhoi'r grym i unigolion a grwpiau cymunedol fynd i'r afael â materion o bwys lleol;
2. Yn croesawu'r ymgyrch i sbarduno refferendwm ar gyfer cyflwyno maer a etholir yn uniongyrchol i Gaerdydd ac yn nodi'r rhan y gallai rôl debyg ei chwarae ledled Cymru o ran gwella democratiaeth, atebolrwydd a'r broses o wneud penderfyniadau ar y lefel leol;
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i feithrin cenedl o ddinasyddion gweithgar a gwybodus sy'n cymryd rhan ac yn ymgysylltu drwy:
(a) cyflwyno refferenda ar gynlluniau arfaethedig i uno cynghorau a chynyddu treth gyngor awdurdodau lleol uwchlaw trothwy penodol fel bod unigolion yn cael mwy o lais mewn perthynas â sut y caiff penderfyniadau eu gwneud yn eu hardal;
(b) cyflwyno pwerau newydd i wella'r broses o gynnwys unigolion mewn penderfyniadau lleol allweddol, fel yr hawl gymunedol i wneud cais a'r hawl gymunedol i herio, oll o dan agenda hawliau cymunedol; ac
(c) gostwng y trothwy ar gyfer deiseb i sbarduno refferendwm ar feiri a etholir yn uniongyrchol mewn ardal.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
37 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:
Yn credu bod cynigion Plaid Cymru ar gyfer ymgysylltu lleol, a nodir yn y papur ar ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus, yn darparu sail gadarnhaol i gyrraedd y nod o rymuso unigolion yn y Cynulliad nesaf.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
8 |
0 |
40 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
8 |
35 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 3(a) a rhoi yn ei le:
cyflwyno pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau llywodraeth leol er mwyn sicrhau bod cynghorwyr yn fwy atebol i'w hetholwyr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
35 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 16.34
Dechreuodd yr eitem am 16.38
NDM5975 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Darparu ar gyfer canolbarth Cymru - pam fod angen signal ffonau symudol cyffredinol i drawsnewid economi canolbarth Cymru.
Daeth y cyfarfod i ben am 16.55
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 1 Mawrth 2016